Cyflwyniad

1.    Pwrpas y papur hwn yw rhoi tystiolaeth ysgrifenedig ar Ddinas-ranbarthau ac Ardaloedd Menter i’r Pwyllgor Menter a Busnes. 

2.    Rydym wedi edrych ar ystod eang o bolisïau a gweithredoedd i gefnogi swyddi lleol a hirdymor a hybu twf yn lleol a hirdymor. Dau o’r ffyrdd o gyflawni hyn yw Dinas-ranbarthau ac Ardaloedd Menter.

Dinas-ranbarthau

3.    Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Dinas-ranbarthau, o dan gadeiryddiaeth y Dr Elizabeth Haywood, yn yr hydref 2011 i weld os allai Dinas-ranbarthau gefnogi twf economaidd yng Nghymru.

Cyfathrebu

4.    Bu’r Grŵp yn cynnal cyfarfodydd ledled Cymru gan gymryd tystiolaeth ar lafar. Cynhaliwyd cyfarfod yn galw am dystiolaeth. Cafwyd dros 60 ymateb i ffurfio’r adroddiad terfynol.

5.    Yn sgil cyhoeddi’r adroddiad ym mis Gorffennaf 2012, cynhaliodd y Grŵp sesiwn gyfathrebu rhanbarthol ledled Cymru a sesiwn friffio gydag Aelodau’r Cynulliad.  Cyfarfu Dr Haywood ag arweinwyr awdurdodau lleol i drafod y dull hwn.

Adroddiad ac argymhellion

6.    Mae 22 argymhelliad yn adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Dinas-ranbarthau a gyhoeddwyd ar 11 Gorffennaf.

7.    Mae’r adroddiad yn argymell y dylid cael dwy ddinas-ranbarth, un y De-ddwyrain a’r llall ym Mae Abertawe.  Nid oedd digon o dystiolaeth o blaid sefydlu dinas-ranbarth mewn unrhyw ran arall o Gymru.

8.    Y Gogledd-ddwyrain oedd yr unig ardal arall oedd â photensial ynddi o gynnwys Caer a Gorllewin Swydd Caer. Fodd bynnag, darganfu’r grŵp nad oedd digon o grynswth poblogaeth i gefnogi Dinas-ranbarth a bod cefnogaeth o’r ardal drawsffiniol yn anghyson. Er hynny, cynigodd y grŵp amryw opsiwn ar gyfer datblygiad economaidd yr ardal, gan gynnwys cryfhau Cynghrair Merswy a’r Ddyfrdwy.

9.    Mae Dr Haywood wedi’i chomisiynu i ymgymryd â darn o waith penodol yn y Gogledd a fydd yn edrych ar ganfyddiadau’r adroddiad a’r materion a gododd.

10.Roedd yr argymhellion eraill yn canolbwyntio ar y strwythurau oedd yn cefnogi’r Dinas-ranbarthau yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys gwneud gwaith ar y cyd, gwaith gofodol a rhanbarthol, sef addasu ac adolygu Cynllun Gofodol Cymru a chreu haenau rhanbarthol o gynllunio strategol.

11.Bydd y Ganolfan i Ddinasoedd yn gweithio gyda swyddogion i wahodd cynrychiolwyr o Ddinas-ranbarthau eraill i ddod i Gymru a rhannu arferion.

Ardaloedd Menter

12.Ardaloedd wedi eu dynodi yw’n Hardaloedd Menter lle mae cymhelliannau penodol yn cael eu cynnig i ddenu busnesau a diwydiannau newydd i’r prif leoliad hwnnw.  Mae’r cynnydd da yn parhau o ran Ardaloedd Menter yng Nghymru.  Mae’r saith Ardal Fenter wedi hen sefydlu bellach, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn weithredol ers mwy na chwe mis. 

Byrddau Ardaloedd Menter

13. Mae’r Byrddau Ardaloedd Menter wedi paratoi eu hamcanion strategol mewn cynlluniau ar gyfer pob Ardal Fenter.  Ystyrir y rhain gan swyddogion ac maent eisoes yn cael effaith wrth i’r Ardaloedd ddatblygu

14. Mae’r Byrddau wedi profi eu bod yn fodel effeithiol, gyda threfniadau llywodraethu parhaol bellach ar waith. Bydd swyddogion yn parhau i gefnogi gwaith y Byrddau dros y misoedd nesaf.

15. Bellach mae cynlluniau marchnata wedi cael eu cwblhau ar gyfer y saith Ardal Fenter, gan gynnwys strategaethau cyflenwi a thargedu, cynigion marchnata manwl a gweithgareddau penodol. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r Ardaloedd yn y marchnadoedd lleol a rhyngwladol.  Mae diddordeb iach yn yr Ardaloedd a chysylltiadau ymholiadau cryf ledled yr Ardaloedd hyn.

Cynnig Ardaloedd Menter

16. Mae ystod o bolisïau a gweithredoedd yn cael eu halinio ym mhob un o’r Ardaloedd er mwyn cyflenwi swyddi ac annog twf. Mae’r broses hon yn cael ei llywio gan Gynlluniau Strategol pob Bwrdd Ardal Fenter i sicrhau ateb penodol i bob Ardal yn hytrach nag un ateb i bawb. 

17. Mae cynnig yr Ardaloedd Menter yn cynnwys cefnogaeth o ran isadeiledd; band-eang y genhedlaeth nesaf; proses haws o ran cynllunio, sy’n fwy effeithlon; darparu hyfforddiant a sgiliau; a chymhelliannau ariannol fel cefnogaeth Ardrethi Busnes a Lwfansau Cyfalaf Uwch.

18. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i chi ar yrArdaloedd Menter yn y cyfarfod llawn ar 27 Tachwedd.